Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil
Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd)
Ymateb Lywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Chwefror 2026
Cyflwynwyd y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) (“y Bil”) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 16 Medi 2025. Mae angen cydsyniad deddfwriaethol Senedd Cymru ar rai elfennau o’r Bil, ac ar 2 Hydref 2025, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) ar gyfer y Bil gerbron y Senedd.
Dilynwyd hyn gan Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â gwelliant gan Lywodraeth y DU i’r Bil, a osodwyd ar 11 Rhagfyr 2025.
Ar 18 Rhagfyr, cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad adroddiad ar Femorandwm Rhif 1 (a osodwyd ar 2 Hydref 2025).
Ar hyn o bryd, bwriedir cynnal dadl ar yr LCM yn y cyfarfod llawn ar 24 Mawrth 2026.
2. Ymateb i faterion a godwyd gan y Pwyllgor
Mae’r Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) yn gymhleth o ran ei natur drawsbolisi a, chan ystyried bod hynt y Bil yn uchelgeisiol o gyflym, mae Llywodraeth Cymru yn ymateb mor gyflym ac effeithlon â phosibl.
Diolchir i aelodau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am eu hadroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd). Mae’r ymatebion i bob un o argymhellion yr Adroddiad yn unigol wedi eu nodi isod
Mae’r ymateb hwn yn mynd i’r afael â thri chasgliad ac wyth argymhelliad yn yr Adroddiad, ac mae’n defnyddio’r rhifau cymalau yn y fersiwn o’r Bil a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin.
Nododd y Pwyllgor:
Rydym yn cytuno ag asesiadau Llywodraeth Cymru, fel y’u nodir yn y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a osodwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog, fod angen cydsyniad y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29, ar gyfer cymalau 1 i 5; cymalau 7 i 10; cymal 12; cymalau 14 i 16; cymal 18 (yn rhannol); cymalau 20 i 25; Atodlen 1 (Rhannau 1, 2 a 6); ac Atodlenni 2 i 4 a 6 (yn rhannol).
Ymateb: Nodwyd y safbwynt hwn.
Nododd y Pwyllgor:
Yn groes i farn Llywodraeth Cymru, fel y’i nodir yn y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, credwn fod angen cydsyniad y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29, ar gyfer cymalau 11, 13, 19 a 26, a Rhan 3 o Atodlen 1.
Ymateb: Nodwyd y safbwynt hwn. Fodd bynnag, yn unol â’r diwygiadau a gyhoeddwyd ar 12 Ionawr, bydd cymal 11 yn gymwys i Gymru fel y mae i Loegr. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y bydd cymal 11, fel y’i diwygiwyd, yn bodloni’r prawf yn Rheol Sefydlog 29. Gosodwyd LCM atodol sy’n adlewyrchu’r safbwynt hwn ar 27 Ionawr 2026.
Nododd y Pwyllgor:
Oherwydd ei arwyddocâd a’i berthnasedd i faterion datganoledig, dylai Llywodraeth y DU ymgysylltu’n well ac yn fwy ystyrlon â Llywodraeth Cymru wrth i’r Bil hwn fynd drwy’r cyfnodau sy’n weddill yn Senedd y DU. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau nad oes canlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil.
Ymateb: Nodwyd y safbwynt hwn.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cymru egluro ym mha “fforymau priodol”, ac â pha randdeiliaid, y mae wedi trafod y Bil.
Ymateb: Derbyn
Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at randdeiliaid ym mis Rhagfyr ynglŷn â chyflwyno’r Bil ac ymestyn cymal 11 i Gymru. Roedd hyn yn cynnig ymgysylltu pellach gan gynnwys yn benodol â’r canlynol:
• Cyrff hyd braich Llywodraeth Cymru
• Adrannau anweinidogol
• Cwmnïau sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru
• Comisiynwyr
• Estyn
• Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG
• TUC Cymru
• UNSAIN
• GMB
• Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT)
• Unite
• Yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU)
• USADW
• Y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN)
• PCS
• CBI Cymru
• Y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB)
• Prifysgolion Cymru
• MAKE UK
• Addysg Oedolion Cymru
• Y Sector Gwirfoddol
• Y Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus
• CLlLC
Mae arweinwyr polisi a Gweinidogion wedi cael eu hannog i ymgysylltu a rhannu â rhanddeiliaid eraill fel y maent yn ystyried sy’n briodol.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cymru:
i. egluro ei rôl o ran sicrhau yr ymgynghorir â chyrff cyhoeddus Cymreig datganoledig perthnasol ar y Bil, gan gynnwys a yw wedi/a yw’n bwriadu cydgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod ymgynghoriad digonol yn cael ei gynnal gan Lywodraeth y DU ei hun;
ii. egluro pa gamau y bydd yn eu cymryd, os o gwbl, i sicrhau bod unrhyw faterion a nodir gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu’n llawn mewn gwelliannau i’r Bil os nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu ymgysylltu’n uniongyrchol â chyrff yr effeithir arnynt; a
iii. cyflwyno adroddiad i’r Senedd ar sut yr ymdriniwyd yn y Bil â materion a nodwyd gan gyrff cyhoeddus datganoledig, cyn i'r Senedd drafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Ymateb: Derbyn yn rhannol (gweler pwynt iii)
Mewn perthynas â’r tri phwynt a nodwyd gan y Pwyllgor:
i. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau yr ymgynghorir â chyrff cyhoeddus Cymru ar oblygiadau’r ddeddfwriaeth.
Mae swyddogion Llywodraeth y DU yn datblygu cynllun gweithredu, a byddwn yn sicrhau bod hwn wedi ei deilwra ar gyfer y cyd-destun Cymreig. Mae sesiwn yn cael ei threfnu â swyddogion a chyrff cyhoeddus Cymru a fydd yn caniatáu iddynt godi materion yn uniongyrchol â swyddogion Llywodraeth y DU.
ii. Wrth i faterion ddod i’r amlwg, mae’r materion hynny wedi cael eu codi â swyddogion Llywodraeth y DU a chyfarfodydd priodol wedi eu cynnull rhwng swyddogion i drafod.
iii. Ymatebir yn briodol i unrhyw faterion a nodir gan gyrff cyhoeddus Cymru y byddant yn cyfathrebu amdanynt â Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU. Pan fo’n bosibl, hysbysir am unrhyw faterion a nodwyd a sut yr aed i’r afael â hwy yn y Bil gan Lywodraeth y DU cyn y ddadl yn y Senedd. Serch hynny, dylai’r Pwyllgor nodi bod y Cyfnod Adrodd wedi ei atal dros dro hyd nes rhoddir ystyriaeth bellach gan Lywodraeth y DU i gymhwyso’r ddyletswydd gonestrwydd i’r gwasanaethau cudd-wybodaeth.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y pryderon a godwyd gan CLlLC ynghylch cyfundrefnau safonau a allai wrthdaro o ganlyniad i’r Bil hwn, a chyflwyno adroddiad i’r Senedd ar ganlyniadau’r trafodaethau hynny cyn i’r Senedd drafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol.
Ymateb: Derbyn
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y materion a godwyd gan CLlLC, sydd wedi bod yn destun trafodaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o’r ddeialog barhaus ynglŷn â darpariaethau’r Bil. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â CLlLC i drafod y materion a godwyd ganddynt yn eu tystiolaeth ac wedi cytuno i gydweithio â llywodraeth leol i gytuno ar y camau gofynnol i sicrhau pontio llyfn o’r trefniadau presennol i’r trefniadau newydd.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Fel rhan o’i chyfrifoldebau am sicrhau y gweithredir y Bil yn effeithiol, dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gefnogi awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yr effeithir arnynt i sicrhau bod eu codau ymddygiad presennol a dogfennau safonau perthnasol eraill yn cael eu diwygio, os oes angen, er mwyn iddynt gydblethu’n effeithiol ag unrhyw ddarpariaethau yn y Bil os caiff ei ddeddfu.
Ymateb: Derbyn.
Bydd y dyletswyddau gonestrwydd proffesiynol a chodau ymddygiad yn gyfrifoldeb cyfreithiol ar yr awdurdodau lleol a chyrff eraill er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth, gan gynnwys ymgorffori darpariaethau mewn dogfennaeth leol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyrff yng Nghymru i weithredu trefniadau priodol yn unol ag unrhyw ganllawiau ar gyfer y DU gyfan. Mae swyddogion Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eu bwriad i gyhoeddi canllawiau pellach yn dilyn y Cydsyniad Brenhinol y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau eu bod yn briodol ar gyfer y cyd-destun Cymreig a, phan fo angen, byddant yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chyrff eraill i nodi’r newidiadau gofynnol i’r canllawiau presennol sy’n benodol i Gymru i sicrhau cysondeb priodol.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am eglurhad gan Lywodraeth y DU ynghylch y rhesymau pam y mae cymalau 12 a 13 (sy’n ymwneud â’r troseddau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus) yn rhychwantu Cymru yn y Bil fel y'i cyflwynwyd, ond nid Gogledd Iwerddon na’r Alban.
Ymateb: Derbyn
Ar 12 Ionawr, cyhoeddwyd gwelliannau Llywodraeth y DU i’r Bil a fydd yn ymestyn Rhan 3 o’r Bil (Camymddwyn mewn swydd gyhoeddus) i’r Alban a Gogledd Iwerddon Gan ragdybio y bydd y gwelliannau hynny yn cael eu pasio, bydd Rhan 3 yn gymwys i’r DU gyfan.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Fel rhan o’i thrafodaethau parhaus ar y Bil a fydd yn llywio ei hargymhellion i’r Senedd ynghylch cydsyniad, dylai Llywodraeth Cymru egluro pam nad yw’r Bil yn rhoi unrhyw bwerau cychwyn i Weinidogion Cymru, nac yn darparu bod rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn cychwyn darpariaethau sy’n ymwneud â materion datganoledig.
Ymateb: Derbyn
Bydd Llywodraeth Cymru yn codi’r cwestiwn hwn â Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi mai Bil ar gyfer y DU gyfan yw hwn, ac felly gall cychwyn fod yn fater i’w weithredu ar sail y DU gyfan i adlewyrchu’r sefyllfa honno. Ymddengys mai rhai sy’n ymwneud ag ymchwiliadau penodol yn yr Alban (Ymchwiliadau yn yr Alban i ddamweiniau angheuol a marwolaethau sydyn) a Gogledd Iwerddon (Ymchwiliadau o dan Ddeddf Crwneriaid (Gogledd Iwerddon) 1959) fel y nodir yng nghymal 25(5) yw’r unig eithriadau.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Fel rhan o’i thrafodaethau parhaus ar y Bil a fydd yn llywio ei hargymhellion i’r Senedd ynghylch cydsyniad, dylai Llywodraeth Cymru nodi:
i. a oes unrhyw bwerau cydredol neu gydredol plws yn y Bil heblaw am y rhai a nodwyd yn yr adroddiad hwn; a
ii. ii. cyfiawnhad Llywodraeth y DU dros gymryd y pwerau hyn.
Ymateb: Derbyn
Pwerau cydredol plws eraill
Nid oes unrhyw bwerau cydredol neu gydredol plws yn y Bil y tu hwnt i’r rhai a nodwyd gan y Pwyllgor.
Cyfiawnhad Llywodraeth y DU
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU am y cyfiawnhad hwnnw ac mae’n aros am ymateb.
Mae’r Pwyllgor yn argymell:
Dylai Llywodraeth Cymru gyfiawnhau sut y mae pob pŵer cydredol neu bŵer cydredol plws yn y Bil y mae’n argymell y dylai’r Senedd roi ei chydsyniad ar ei gyfer yn “achos eithriadol” fel y nodir yn ei hegwyddorion ar ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig.
Ymateb: Derbyn
Mae pwynt bwled 2 o baragraff 4 o Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth y DU mewn meysydd datganoledig yn datgan:
“Os bydd Gweinidogion Cymru, mewn achosion eithriadol, yn cytuno y dylid creu pwerau cydredol, dylai pwerau o’r fath fod yn ddarostyngedig i’r mecanweithiau cydsynio perthnasol ac i’r eithriadau cysylltiedig o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fel nad yw’n ofynnol i’r Senedd gael cydsyniad ar gyfer dileu’r pwerau yn y dyfodol.”
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod pob un o’r pwerau cydredol plws yn y Bil yn eithriadol at ddibenion y paragraff uchod. Mae pob un ohonynt yn ffurfio rhan o system newydd ac anarferol o gyffredinol o ddyletswyddau cyffredin a osodir ar lawer o gyrff cyhoeddus ledled y DU. Mae’n gwneud synnwyr bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol bwerau i ddiwygio’r swyddogaethau hyn oherwydd eu bod yn ymestyn ar draws y DU gyfan.
At hynny, mae rhai o’r swyddogaethau sy’n ymwneud, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, â chymorth cyfreithiol, sy’n fater a gedwir yn ôl (mater y mae Llywodraeth y DU yn unig yn ymdrin ag ef). Yr Ysgrifennydd Gwladol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall pa newidiadau i’r system o dan y Bil all fod yn ofynnol o ganlyniad i’r effaith ar y system cymorth cyfreithiol, os o gwbl.
Pan fo’n berthnasol, mae’r sefyllfa gyfansoddiadol a’r setliad datganoli yn cael eu diogelu’n ddigonol drwy ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi eu cydsyniad ar gyfer defnyddio’r pwerau hyn